Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-26-12 papur 4

Cynlluniau ad-drefnu byrddau iechyd – Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

Drwy e-bost

 

25 Medi 2012

Annwyl

Cynlluniau Ad-drefnu'r GIG

Ysgrifennaf atoch gan ddeall yn llwyr beth yw’r sialensiau y mae Byrddau Iechyd lleol yn eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd gyfredol. Mae penderfyniadau angen eu gwneud ynghylch darparu gwasanaethau a blaenoriaethu gwariant, ac rwyf yn gwybod fod pob Bwrdd Iechyd yn wynebu ei sialensiau penodol ei hun. Rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn angenrheidiol i Fyrddau Iechyd ddatblygu modelau gofal newydd er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru.

Mae gwasanaethau iechyd a'u darpariaeth yn aml yn bynciau sensitif ac emosiynol. Golyga hyn ei bod yn hynod o bwysig bod y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gweld a'i hystyried i fod yn un glir, tryloyw ac yn cael ei gweithredu gan lawn ystyried hawliau ac anghenion y rhai hynny a fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan unrhyw newidiadau.

Mae pobl hŷn wedi tynnu fy sylw at eu pryderon ynghylch rhai o'r newidiadau a awgrymir gan rai Byrddau Iechyd. O ganlyniad, rwyf yn ysgrifennu i amlinellu fy nisgwyliadau o Fyrddau Iechyd pan fyddant yn ystyried gwneud newidiadau i wasanaethau neu'n ystyried cau cyfleusterau meddygol neu gartrefi gofal. Mae'n rhaid i bobl, a phobl hŷn yn benodol gan mai nhw yw defnyddwyr pennaf gwasanaethau iechyd yng Nghymru, fod wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau.

Fel Comisiynydd, mae gen i dri mater penodol y mae gennyf ddiddordeb ynddynt. Y rhain yw:

1.           Y graddau y mae pobl hŷn yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.  Fe fyddwn yn disgwyl iddynt gael eu cynnwys yn gynnar yn y broses, a bod eu safbwyntiau wedi cael eu cymryd o ddifrif. Rwyf am fod yn dawel fy meddwl fod yna wrandawiad wedi bod iddynt a bod eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried wrth i newidiadau gael eu gwneud i wasanaethau.

 

2.           Pan fo bwriad i wneud newidiadau i wasanaethau, mae angen ystyried yn llawn pa effaith gaiff y newid ar bobl hŷn. Pan fo newid yn angenrheidiol, rwyf am gael sicrwydd fod cefnogaeth arall briodol ac effeithiol nid yn unig ar gael ond bod tystiolaeth ohoni'n cael ei defnyddio gan y bobl hŷn yr effeithir arnynt.

 

3.           Pan fo gwasanaethau wedi cael eu newid neu eu hatal o ganlyniad i bwysau ariannol ehangach, mae’n hanfodol nad yw hynny yn cael mwy o effaith ar bobl hŷn nag ar unrhyw ran arall o gymdeithas.

Rhywdro yn y dyfodol fe allwn graffu ar i ba raddau y cydymffurfir â’r ceisiadau hyn.

Sicrhau hawliau dynol pobl hŷn a chydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd weithredu mewn modd sy'n diogelu hawliau dynol y rhai a wasanaethir gennym. Mae gan bobl hŷn hawl cyfreithiol i gael eu trin yn deg ac i gael gwrandawiad. Dylid parchu eu hurddas, eu credoau, eu hanghenion a'u preifatrwydd, yn ogystal â'u hawl i wneud penderfyniadau effeithiol a doeth am eu gofal, eu triniaeth a'u lles.

Mae'r dyletswyddau penodol yn y Ddeddf Cydraddoldeb o ran dyletswydd cydraddoldeb cyffredinol yn y sector cyhoeddus yn golygu bod angen i Fyrddau Iechyd asesu effaith polisiau a pholisiau arfaethedig ar rai sydd â nodweddion gwarchodedig. Wrth ystyried newidiadau i wasanaethau neu gau posibl ar gyfleusterau meddygol neu gartrefi gofal, dylai Byrddau Iechyd - gydag Awdurdodau Lleol lle bo hynny'n briodol - asesu effaith yr opsiynau y mae'n eu cynnig yn y ddogfen ymgynghorol ac fe ddylent gyhoeddi'r casgliadau hyn fel rhan o'r ddogfen honno. Ni ddylid cynnal y broses asesu effaith unwaith yn unig - dylid ei hailadrodd pan fo unrhyw fwriad i newid cyfeiriad neu newid sefyllfaoedd.

Dylai byrddau ystyried y canfyddiadau yn drwyadl a gweithredu arnynt er mwyn sicrhau nad yw unrhyw un â nodwedd warchodedig yn cael ei drin yn annheg o ganlyniad i bolisi neu benderfyniad.

Ymgynghori ac ymgysylltu ystyrlon

Rwyf am dynnu eich sylw yn benodol at 'Arweiniad ar Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd' GIG Cymru a hefyd at adran183 Deddf Gwasanaethau Iechyd Cenedlaethol (Cymru) 2006, sy'n golygu fod Byrddau Iechyd yn cynnwys dinasyddion ac yn ymgynghori â hwy mewn perthynas â'r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu'n eu caffael.

Dylid ymgynghori â phobl hŷn a'u teuluoedd mewn modd ystyrlon ar adeg pan fo cynigion i newid yn dal yn y cyfnod ffurfiannol. Dylai'r ymgynghoriad roi gwybodaeth, mewn iaith syml ac mewn fformatau amrywiol, er mwyn galluogi pobl i gael y darlun llawn. Dylai fod yna ddigon o amser i bwyso a mesur y wybodaeth ac ymateb iddi. Dylai'r ymatebion y mae pobl hŷn a'u teuluoedd yn eu rhoi gael eu dadansoddi yn ofalus ac â meddwl agored gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a dylai'r canlyniadau fod ar gael yn eang. Dylai'r Bwrdd gyhoeddi'r safbwyntiau a fynegir a'r rhesymau dros y penderfyniadau a wnaed yn derfynol. Dylai'r ymatebion hefyd gael eu bwydo i mewn i broses asesu effaith barhaus (gweler uchod).

Mae'n rhaid i gamau amrywiol y broses ymgynghori gael eu gwneud yn eglur i bobl hŷn a'u teuluoedd ac mae'n rhaid sicrhau bod prif bwynt cyswllt ar gael a bod modd cysylltu ag ef/hi er mwyn cael atebion i unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad.

Darparu eiriolaeth pan fo cyfleusterau yn cau

Mae'n rhaid i bobl hŷn allu mynegi eu dymuniadau neu eu pryderon eu hunain wrth wynebu trosglwyddiad gofal pan fydd gwasanaeth yn cau. Ni fydd rhai yn gallu gwneud hyn heb help eiriolwr annibynnol. Pan fo unigolyn hŷn yn wynebu newid yn ei breswylfa ac nad oes ganddo'r gallu  i gynrychioli ei hun na pherthynas na ffrind i'w gynrychioli, mae'n rhaid penodi Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol gan ei fod yn ofyniad cyfreithiol i benodi un pan fo penderfyniadau mawr o'r fath yn cael eu gwneud.

Yn y cyfnod cynharaf, dylai pobl hŷn fod yn ymwybodol o'r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael iddynt; er efallai fod gan unigolyn y gallu, fe all ef neu hi deimlo'r angen i gael cefnogaeth gan rywun annibynnol i fynegi dymuniadau neu bryderon. Gall y sector gwirfoddol chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cefnogaeth o'r fath a dylid ei ddefnyddio i wneud hynny.

Er bod ganddynt rôl allweddol mewn helpu a rhoi gwybodaeth i bobl hŷn,  nid yw nyrsys, rheolwyr cartrefi gofal a gweithwyr cymdeithasol yn eiriolwyr annibynnol.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gyhoeddi argymhellion ehangach ar eiriolaeth annibynnol ac fe fyddwn yn annog eich cyfraniad i'r drafodaeth yn y dyfodol agos. Y flwyddyn nesaf, fe fyddaf yn cyhoeddi arweiniad ffurfiol, o dan adran 12 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, ar ddarparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn.

Fe fyddwn yn gwerthfawrogi pe byddech yn gallu anfon cyn gynted â phosibl gopi o'ch cynllun ymgynghori a strategaeth ymgysylltu parthed y cynlluniau ad-drefnu cyfredol a/neu gynlluniau i gau.

Fel Comisiynydd, rwyf yn gallu cefnogi a chynorthwyo pobl hŷn i wneud cwynion neu weithredu'n gyfreithiol parthed y gwasanaethau a ddarperir gan Fyrddau Iechyd Lleol, er enghraifft i herio gwahaniaethu ar sail oedran neu i ddiogelu eu hawliau dynol. Fe fyddaf hefyd, yn ddiweddarach, yn adolygu amcanion cydraddoldeb pob Bwrdd Iechyd o ran pobl hŷn. Fe fyddaf yn cadw llygad ar y modd y mae Byrddau Iechyd yn gwneud penderfyniadau fel bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarchod ac fe fyddaf yn cysylltu â chi ymhellach, os bydd hynny'n briodol.

Yn gywir,

Description: digi sig for Sarah R

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru